Cŵyn wrth y Gweinidog Addysg na wnaeth Cyngor Ynys Môn gadw at ei ddyletswyddau statudol (yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013) wrth gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Gymunedol Bodffordd ac wrth gymryd penderfyniad i gau’r ysgol hon. – 28.2.19

Annwyl Weinidog

Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith i gyflwyni i chwi gŵyn ffurfiol na wnaeth Cyngor Ynys Môn gydymffurfio â gofynion statudol y Côd Trefniadaeth Ysgolion (2013) a oedd yn weithredol ar y pryd (Chwefror-Ebrill 2018) pryd y cynhaliwyd ymgynghoriad am ddyfodol Ysgol Gymunedol Bodffordd nac wrth  gymryd y penderfyniad canlynol i gau’r ysgol hon.

Ni wnaeth y Cyngor werthuso’r opsiynau amgen i gau’r ysgol mewn modd cydwybodol, nag ystyried mewn unrhyw ffordd ystyrlon effaith cau’r ysgol ar y gymuned, ac nid adroddwyd yn gywir i’r Pwyllgor Gwaith am y cynigion a ddaethant i’r amlwg yn ystod y cyfnod ymgynghorol. Fel corf a ymatebodd i’r ddogfen ymgynghorol statudol, fe wnes i ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith gyflwyno i’r Cyngor ar 7.1.19 gŵyn trwy eu proses mewnol i’r perwyl hwn, a chofrestrwyd y cŵyn fel rhif F393. Atodaf ateb y Cyngor i’m cŵyn. Eu hamddiffyniad yw eu bod wedi cyfeirio at y gair “ffedereiddio” dair blynedd ynghynt – heb werthuso unrhyw opsiynau o e=ffedereiddio mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd. Yr un fath, credant fod penderfynu cynnal trafodaethau gyda’r gymuned leol yn eu hesgusodi rhag dadansoddi effaith cau’r ysgol ar y gymuned  - er bod yr unig ganolfan gymunedol yn rhan o adeiladau’r ysgol ei hun. Nid yw’r Cyngor yn gwadu na wnaethant  hyd yn oed gyfeirio yn eu hadroddiad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad at ein hopsiwn amgen o greu ffederasiwn rhang yr ysgol uwchradd a’r cysgolion cynradd cylchynnol. Mae’r Cyngor yn trine u dyletswyddau statudol o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion gyda dirmyg ac mewn modd tocenistaidd ar y gorau. Mae hyn yn dwyn anfri ar brosesau ymgynghori a democrataidd lleol, ac yn allgau pobl leol o’u rhan briiodol mewn penderfyniadau addysgiadol allweddol. Mae cynnal ymlyniad rhieni =, llywodraethwyr a’r gymuned leol wrth y drefn addysg o’r bwys mwyaf, a gofynnwn i chwi ddyfarnu felly fod y Cyngor wedi methu mewn swyddogaeth addysgol bwysig, a bod sail felly i chwi ymyrryd.

Awgrymwn yn barchus y daw’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn ddiystyr (yn cynnwys argraffiad newydd 2018) os caniateir i Awdurdodau Lleol anwybyddu ei ofynion. Gofynnwn felly i chwi ddefnyddio’ch grym cyffredinol a sefydlwyd yn Neddf Addysg 2013 i ymyrryd os bydd Awdurdod Lleol yn methu mewn dyletswydd addysgol statudol. Mae’r penderfyniad i gau’r ysgol ac anwybyddu barn pobl leol a methu cydymffurfio â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn fethiant addysgol digon difrifol i’ch g alluogi i ymyrryd o dan y grym cyffredinol sydd ganddoch o dan y ddeddf i ymyrryd pan fo methiant addysgol difrifol. Gyda'r grym hwn, gellwch ymyrryd trwy ddefnyddio (cymal 5) eich "grym cyffredinol i gyfarwyddo'r Awdurdod Lleol" naill ai (1) i dynnu'n ôl eu Hysbysiad i gau Ysgol Gynradd Bodffordd a chaniatau i rieni'r dewis o anfon eu plant i'r ysgol newydd yn Llangefni neu eu cadw yn Ysgol Bodffordd neu (2) o leiaf fod yr Awdurdod yn ailagor yr ymgynghoriad statudol gan gadw y tro hwn at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion. Byddai'r ail lwybr yn creu ansicrwydd ac oediad wrth adeiladu'r ysgol newydd y mae ei angen ar dref Llangefni, ac felly credwn fod y llwybr cyntaf yn well.

MANYLION EIN CŴYN

Dyma felly ein cŵyn am brif fethiannau'r Cyngor i gadw at y Côd Trefniadaeth Ysgolion wrth benderfynu cau Ysgol Bodffordd a pham bod ymateb y Cyngor yn gwbl annigonol. Methodd y Cyngor â dilyn y canllawiau statudol oedd mewn grym ar y pryd mewn dwy ffordd hanfodol bwysig (1) Diffyg gwerthusiad ystyrlon o opsiynau eraill heblaw am gau'r ysgol, a (2) diffyg asesiad ystyrlon o'r effaith ar y gymuned o gau'r ysgol. Yr ydym wedi anfon cŵyn ffurfiol at yr Awdurdod am y ddau fethiant sylfaenol hyn, ac maen nhw wedi ymateb. Eu hymateb yn y bôn yw eu bod wedi cadw at y canllawiau trwy (1) enwi opsiynau amgen heb eu gwerthuso a (2) ddatgan y byddent yn trafod gyda'r gymuned leol, heb wneud asesiad ystyrlon o effaith cau'r ysgol. Byddai derbyn yr ymagwedd hwn yn gwneud y Côd yn destun gwawd. Dyma'r manylion -

1) Diffyg Gwerthusiad o'r opsiynau amgen heblaw am gau Ysgol Bodffordd - Mae Adran 1.7 o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 (006/2013) yn dweud fod yn rhaid "rhoi sylw arbennig i (1) a ellid ystyried sefydlu ysgolion â mwy nag un safle fel ffordd o gadw adeiladau, neu'r rhesymau dros beidio â dewis yr opsiwn hwn", (2) "a ellid ystyried opsiynau amgen heblaw cau'r ysgol, megis clystyru, cydweithredu neu ffedereiddio ag ysgolion eraill (gan ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cysylltiadau TGCh rhwng safleoedd ysgolion), meu'r rhesymau dros beidio ag ystyried y rhain fel opsiwn amgen yn lle cau'r ysgol." Eto mae Adran 3.2 o'r un Côd yn datgan fod yn "rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn y ddogfen ymgynghori manylion unrhyw opsiynau amgen sydd wedi'u hystyried yn lle cau'r ysgol, a'r rhesymau dros beidio â bwrw ati â'r rhain". Yn olaf, mae Adran 3.1 o'r Côd yn datgan "Mae'r gyfraith achosion wedi pennu y dylai'r broses ymgynghori ....(3) sicrhau y caiff yr hyn sy'n deillio o'r ymgynghoriad ei ystyried mewn ffordd gydwybodol pan wneir y penderfyniad yn y pen draw". Methodd y Cyngor â chyflawni ei ddyletswydd cyfreithiol yn ôl y Côd ar y tri chyfri hyn. Cyhoeddwyd y Ddogfen Ymgynghori Statudol ar gyfer yr Ymgynghoriad am ddyfodol Ysgol Bodffordd (ac eraill yn ardal Llangefni) a redodd o 20 Chwefror hyd 3 Ebrill 2018. Penderfynwyd ymgynghori'n statudol ar ddau opsiwn (A & B) a'r ddau opsiwn yn golygu cau Ysgol Bodffordd. Dyma'r ymgynghoriad statudol a arweiniodd at y penderfyniad a chyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Bodffordd, ac nid oes ynddi ymdriniaeth o gwbl ag opsiynau eraill - heb sôn am "fanylion" fel y mae'r Côd yn ei fynnu. Yn eu hymateb i'n cŵyn, dywed y Cyngor eu bod wedi cyfeirio at bosibiliad ffedereiddio mewn cyfnod ymgynghori anstatudol blaenorol yn 2016. Mae'r ddogfen yn wir yn cyfeirio at "21 o syniadau" a gododd mewn ymgynghori anstatudol yn 2016 fel rhan o'r cefndir. Ond yr unig gyfeiriad at "ffedereiddio" yw un cymal lle dywedir fod rhywun wedi codi syniad o ffedereiddio ysgol newydd (hynny yw WEDI CAU Ysgol Bodffordd) gydag Ysgol arall. Dywed ymateb y Cyngor i'n cŵyn fod dogfen ymgynghori anstatudol flaenorol o 2016 am ardal Llangefni wedi cyfeirio at "41 opsiwn" a saith ohonynt yn berthnasol i Ysgol Bodffordd a'r ail oedd "Ffedereiddio gydag ysgol(ion) eraill". Ar y gorau, enwi pob posibiliad damcaniaethol sydd yma - does dim gwerthusiad o gwbl o fanteision ac anfanteision creu ffederasiwn nag ystyriaeth o ddifri, ac mae hyn yn gwneud y gofynion statudol yn destun gwawd. Yn eu hymateb pellach i'n cŵyn, dywed Cyngor Ynys Môn nad yw ffedereiddio "yn newid y sefyllfa o ran ol-groniad cynnal a chadw a chyflwr ysgol". Wrth gwrs nad yw e ddim ! Mecanwaith i resymoli defnydd adnoddau a gwella addysg yw ffedereiddio, nid i wella adeialdau ! Os dyna'r llinyn mesur, ni byddid byth yn ystyried ffedereiddio fel opsiwn amgen, a byddai canllawiau'r Côd wedyn yn ddiystyr. Nid dyna fwriad Llywodraeth Cymru ar y pryd. Ar ben hyn, yn ein hymateb yn y cyfnod ymgynghori statudol, cododd Cymdeithas yr Iaith gynllun amgen o greu Ffederasiwn rhwng Ysgol Uwchradd Llangefni a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo fel ateb amgen, gan greu uned addysgol gref a rhesymoli'r defnydd o adnoddau. Yn eu hadroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar ganlyniadau'r ymgynghori, wnaeth y swyddogion ddim hyd yn oed crybwyll y cynllun hwn "a ddeilliodd o'r ymgynghoriad" (Adran 3.1 uchod) heb sôn am "ei ystyried mewn ffordd gydwybodol" a'i gwerthuso. Mewn gair, ni wnaeth y Cyngor ystyried manylion yr opsiynau amgen ac aethpwyd ymlaen i gymryd y penderfyniad difrifol i gau ysgol yn groes i ddymuniad rhieni a llywodraethwyr heb ystyried hyn.

(2) Diffyg ystyriaeth o effaith cau'r ysgol ar y gymuned. - Trown yn ôl at Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013, a dywed Adran 1.7 eto "Mewn rhai ardaloedd, efallai mai ysgol fydd y prif ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch cymunedol hefyd, a gallai ei chau arwain at oblygiadau y  tu hwnt i ddarparu addysg. Gall hyn fod yn nodwedd penodol mewn ardaloedd gwledig os defnyddiradeiladau ysgolion fel man i ddarparu gwasanaethau i'r gymuned" (Ni allai fod disgrifiad gwell o Ysgol Bodffordd, gan fod y Ganolfan Gymunedol yn rhan o adeiladau'r ysgol ei hun). Mae Adran 1.7 yn parhau y dylid "dangos fod effaith cau'r ysgol ar y gymuned wedi'i hasesu drwy lunio Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned, a dangos sut y gellid cynnal unrhyw gyfleusterau cymunedol a ddarperir gan yr ysgol ar hyn o bryd", ac ailadroddir hyn yn isbwynt (4) o'r adran. Mae Adran 3.2 yn datgan hefyd fod yn rhaid i'r Ddogfen Ymgynghorol (ymhlith pethau eraill) drin "effaith y cynigion ar y gymuned leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig..." Nid oes yn y ddogfen ymgynghori ei hun unrhyw astudiaeth o effaith cau'r ysgol (a pheryglu'r unig ganolfan gymunedol yn y pentre) ar y gymuned, ond mae Atodiad 5 yn cyfeirio at "ddefnydd cymunedol" o adeilad yr ysgol newydd yn Llangefni. Yr awgrym amlwg yw y dylai triogolion Bodffordd drosglwyddo eu gweithgareddau cymunedol i Langefni !. Yr un pryd, cyhoeddwyd dogfen (i'w gweld yma https://www.anglesey.gov.uk/documents/Dogfennau-Cy/Cyngor/Ymgynghoriadau/2018/Llangefni/Asesiadau-Effaith.pdf) o "Asesiadau Effaith" gweithredu'r cynlluniau i gau Ysgol Bodffordd. Bu 4 gwahanol asesiad yn yr un papur o 4 tudalen. Yr adran olaf (5) yw'r asesiad effaith ar y gymuned. Yn dilyn datganiad "methodoleg" sy'n datgan fod y Cyngor yn ystyried yn ofalus effaith cau ysgol ar gymuned, eir ymlaen i ddisgrifio lleoliadau daearyddol yr ysgolion, niferoedd y disgyblion a chyfeiriadau cwta at ymgynghori anstatudol blaenorol - ond dim cyfeiriad o gwbl at y ffaith y byddai cau Ysgol Bodffordd yn golygu nad oedd sicrwydd am unig ganolganfan gymunedol y pentre sy'n rhan o adeiladau'r ysgol. . Mewn gair nid oes unrhyw ymgais at asesiad difrifol o effaith cau'r ysgol ar y gymuned. Yn eu hymateb i'n cŵyn, dywed y Cyngor fod y Pwyllgor Gwaith, wrth benderfynu cau'r ysgol, hefyd wedi penderfynu "bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda chymuned Bodffordd er mwyn diogelu a chadw'r neuadd gymuned". Yn lle astudiaeth effaith y mae felly drafodaethau yn unig gyda'r gymuned leol i weld a ellir cael hyd i ryw ffordd o arbed y ganolfan gymunedol. Hyd yma, ni ddaeth llwyddiant ac mae'r Cyngor yn apelio i unrhyw un sydd ag adnoddau i gymryd drosodd yr adeiladau. Dyw trafodaeth ddim yn sybstitiwt am asesu'r holl niwed a wneir i gymuned Gymraeg wrth gau'r ysgol, ac felly methwyd â chydymffurfio â'r gofynion statudol eto.

I grynhoi felly, ni allai fod achos cliriach o Awdurdod yn methu yn ei ddyletswydd addysgol a democrataidd i gadw at ofynion y Côd Trefniadaeth. Os na all Gweinidog ymyrryd mewn achos fel hwn, go brin fod unrhyw bwrpas o gwbli gyhoeddi canllawiau y gall Awdurdodau Lleol eu hanwybyddu. Yn wir, mae'r un Awdurdod Lleol - Cyngor Ynys Môn - wedi torri'r Côd newydd o fewn dau ddiwrnod i'w gyhoeddi ar Dachwedd 1af 2018. Mae'r argraffiad newydd o'r Côd yn sefydlu rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Ond mae dogfen gychwynnol a gyhoeddwyd ddeuddydd wedyn gan y Cyngor ar addysg yn ardal Amlwch yn cyfeirio'n syth at gau ysgolion gwledig sy'n amlygu nad oes unrhyw newid agwedd o gwbl, ac yn sicr dim rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Dyma brawf ar y drefn bresennol.

Nid oes unrhyw ffordd ymarferol o ddilyn y mater ymhellach o ran prosesau mewnol y Cyngor. Ar ddiwedd eu hymateb i’n cŵyn (lle mae’r cyngor yn gwrthod unrhyw awgrym nad ydyn nhw wedi cyflawni eu dyletswyddau, ac yn wiry n awgrymu mai fel hyn y byddant yn gweithredu yn y dyfodol), dywed y Cyngor “Os nad ydych yn hapus gydag unrhyw agwedd o’r ymateb yma i’ch cais am wybodaeth a/neu’r penderfyniad i atal gwybodaeth, mae’n bosibl i chi ofyn am adolygiad mewnol. Gyrrwch eich cais ymlaen i’r Swyddog Gofal Cwsmer…” ac wedyn at y Comisiynydd Gwybodaeth  yn Lloegr. NID cais am ryddhau gwybodaeth sydd yma, ond cŵyn na wnaeth y Cyngor ymgadw at eu dyletswyddau cyfreithiol. Mae hyd yn oed roi’r ymateb hwn ar ddiwedd y llythyr yn arwydd o feddylfrys “Cut & paste” y Cyngor – gan ddefnyddio brawddeg safonol o ran ateb y cwynion arferol a dderbyniant am geisiadau am wybodaeth yn hytrach nag ateb ein hunion cŵyn ni. Yr un modd, cred y Cyngor y gall ymgadw at y Côd Trefniadaeth Ysgolion trwy weithredu tocenistaidd yn unig. Gofynnwn i chwi fel Gweinidog i ymyrryd o dan eich grymoedd cyffredinol er mwyn diogelu hygrededd y Côd Trefniadaeth Ysgolion a’r cymalau ynddo sydd at bwrpas sicrhau fod cyfranogiad gan rieni, llywodraethwyr ac eraill mewn penderfyniadau addysgol o bwys.

Yn gywir

Ffred Ffransis, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg